Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2014 i’w hateb ar 11 Mawrth 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith toriadau cyllid ar y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)1546(FM)W

 

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru effaith y dreth ystafell wely? OAQ(4)1550(FM)

 

3. David Rees (Aberafan):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ysgogi twf economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)1547(FM)

 

4. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwasanaeth trên amlach o Aberystwyth? OAQ(4)1540(FM)W

 

5. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus?OAQ(4)1544(FM)

 

6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed yn ail adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf?OAQ(4)1543(FM)

 

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid GIG Cymru? OAQ(4)1535(FM)

 

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atgyfeiriadau gan feddygon teulu ar gyfer y rheini yr amheuir bod ganddynt ganser?OAQ(4)1538(FM)

 

9. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy?OAQ(4)1542(FM)

 

10. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am asesiad Llywodraeth Cymru o’r effaith y mae diwygio lles yn ei chael ar bobl Cymru? OAQ(4)1549(FM)

 

11. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(4)1551(FM)

 

12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i adeiladu ar statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg?OAQ(4)1539(FM)

 

13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran datblygu technoleg feddygol yn y gwasanaeth iechyd?OAQ(4)1545(FM)

 

14. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad y panel annibynnol ar leoliad Canolfan Is-ranbarthol ar gyfer Gofal Dwys i’r Newydd-anedig yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1548(FM)W

 

15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi twristiaeth yng ngorllewin Cymru?OAQ(4)1534(FM)